Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nos. Dymunol iawn fyddai cael bwthyn unig yn rhywle allan o gyrraedd llygaid pobl fusneslyd; hwyrach fod lle felly yn bod, ac y gellid cael rhyw wraig i'w lanhau bob yn eilddydd, a'n gadael ni ein hunain yn ystod y nos. Ac os bydd i Gwynn flino ar fywyd felly mewn amser, byddaf yn sicr o ganfod hynny, a gallaf i berswadio i fynd am dro am ychydig ddyddiau i rai o'r trefi. Ar hyn o bryd, beth bynnag, ni fynn sôn am fy ngadael."

Pan gyrhaeddodd y gwesty, yr oedd Morgan yn effro, ac yn gwrando amdano, er nad oedd eto wedi codi; a phan glywodd drwst Bonnard yn y tŷ, galwodd arno i'w ystafell.

'Rhyfeddu a dyfalu yr oeddwn pa bryd y buasech yn dychwelyd," ebr Gwynn yn awchus, fel yr estynnodd ei law iddo. Gafaelodd Bonnard ynddi yn awchus, a'i gwasgu'n wresog.

"Oeddech-chi'n pryderu yn 'y nghylch-i?" gofynnodd, dan wenu, a gwneud lle iddo'i hunan i eistedd ar ymyl y gwely.

Wel oeddwn-a deud y gwir. Ond ddaru-chi lwyddo i fynd i mewn?"

"Do-drwy ffenest. Roedd-o'n waith haws nag roeddwn i wedi feddwl."

"Be? Aethoch-chi i mewn i'r hen blas?" gwaeddodd Gwynn, gan godi'n sydyn ar ei benelin. "Welsoch-chi rywbeth rhyfedd yno?

Newidiodd wyneb hardd Bonnard ar amrantiad. "Do," atebodd, "ond rhaid ichi faddau imi, Gwynn, am gadw 'nghyfrinach i mi fy hun am rŵan, beth bynnag.'