chitha frecwast ar unwaith, o achos does gen-i ddim lle i feddwl ych bod-chi wedi cael gwledd ym Mhlas y Nos."
Ychydig yn ddiweddarach, yr oedd y ddau uwchben borebryd campus, a difai archwaeth ganddynt bob un. Daeth gwraig y tŷ atynt ar eu cais, ac wedi ei holi cawsant ar ddeall fod bwthyn gwag ryw filltir neu well o'r pentref. Nid oedd fawr o gamp arno, na neb yn byw ynddo ers dros flwyddyn. Barnai'r wreigdda y gwnâi'r tro, efallai, ond tacluso tipyn arno. Ond ofnai na allai boneddigion fod yn hapus iawn mewn lle mor wael. Eiddo Mr Jones, y Siop, ydoedd. Agorodd Mr Jones ei lygaid yn llydan mewn syndod wrth weled dau ŵr ieuanc coeth, trwsiadus, yn holi am Hafod Unnos. Dywedodd Gwynn Morgan wrtho ei fod yn beintiwr, a'i fod yn bwriadu aros beth amser yn y gymdogaeth i beintio ei golygfeydd ardderchog.
"Rydym-ni wedi hen arfer â'i ryffio-hi," meddai, "a chredu rydw i y gwna Hafod Unnos ein tro, os gosodwch-chi-o inni wrth yr wythnos."
Rhoes Mr Jones yr agoriad iddynt i fynd i weled y lle drostynt eu hunain, a dywedodd, os hoffent y lle, y gallent ei gael, a chroeso, am bedwar swllt yr wythnos.
Nid oedd eisiau lle mwy unig i fodloni breuddwydion meudwy. Safai beth pellter o'r ffordd fawr, a rhodfa las drwy brysgwydd yn arwain ato. Y tu ôl iddo yr oedd coedlan o binwydd, ac ni welid un tŷ arall o'i ddrws, ddim mwy nag y gwelid yntau o'r un annedd arall yn y gymdogaeth. Teg a swynol oedd ei olwg oddi allan, a'i do gwellt, a'i furiau wedi eu gorchuddio ag iorwg, a'r ffenestri plwm hen ffasiwn wedi hanner