Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weled Llio, ond nid oedd yn fodlon cyfaddef wrtho'i hun fodolaeth y teimlad hwnnw.

"'Rydw-i'n gweld y lle yma rŵan yn edrych yn eitha cartrefol a chysurus," ebr Gwynn Morgan, gan sythu yn ei gadair, ac edrych o'i gylch. Aeth rhywbeth fel cysgod gwên dros wyneb tywyll Bonnard:

Tybed," eb ef, "y ca'-i gartre rywdro?"

Chwarddodd Gwynn yn llon ac ysgafn ei fryd, ac ebr yntau:

Wrth gwrs y caiff bachgen smart fel y chi gartre- ag un o ferched hardda'r byd yn goron arno."

Cododd Bonnard ar hynny; gyda Llio yr oedd ei feddyliau.

"Rhaid i mi fynd yn awr; au revoir."

"Nos dawch; cymerwch ofal ohonoch ych hun, Ivor, a chofiwch nad oes yn y byd yma ddim gormod o bobol dda."

Cerddodd Bonnard ar hynny allan o'r tŷ; ac yr oedd hi yn nos. Gofynnai iddo ei hun a oedd yn ddyn da; pe gwybuasai Gwynn holl gyfrinach ei galon ef, a fuasai ei natur onest, gariadlon, wedyn yn ei alw yn ddyn da. A fuasai'n meddwl mor uchel o'i gyfaill distaw a thrist?