Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddiannu dyn wrth syllu ar ryw ymlusgiad aflan a gwenwynig. Gwelid teimladau ei mynwes yn ei llygaid. Am oddeutu deng munud, safodd yno'n llonydd yn edrych arno, ac ofn i'w weled yn cynyddu ac yn cronni yn ei llygaid. Ond nid oedd ef yn symud dim, a hithau'n dychrynu rhag tynnu ei sylw ati ei hun, ac er hynny heb nerth i fyned ymaith. O'r diwedd, torrodd ar y distawrwydd ag ochenaid, a gofynnodd yn grynedig:

Pam daru-chi alw? Oes arnoch-chi eisio rhywbeth gen i?"

Amlwg oedd y gwyddai eisoes ei bod yno, oblegid ni chynhyrfodd wrth glywed ei llais. Cododd ei lygaid yn araf oddi ar ddalennau'r llyfr o'i flaen, ac edrychodd ar yr eneth. Dan ei drem ciliodd hithau'n ôl, dan grynu fel deilen. Chwarddodd yr adyn yn gryglyd ac annaturiol.

"Ydw-i'n edrych yn debyg iawn i'r cythraul?" gofynnodd, a chaled fel seiniau corn pres oedd acenion ei lais. "Pam mae arnoch-chi f'ofn-i? Fydda-i yn ych cam-drin-chi o gwbwl?"

"Na, na!"—a thynnodd yr eneth ei llaw'n frysiog dros ei haeliau. "Ond rydech-chi'n gwneud imi gofio nad oeddwn-i ddim bob amser o 'ngho. O! beth wnaeth imi golli fy synhwyrau?"

Daliodd yr adyn i syllu arni heb dynnu ei lygaid oddi arni gymaint ag eiliad, a hithau'n gwywo a bron llewygu dan ei drem.

Sut y gwn i?" gofynnodd, a chwanegodd mewn llais isel, a gwên greulon ac annynol yn chwarae ar ei wefusau gwynion, teneuon. "Rydech-chi'n wallgo, a