Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"O, bydda, rydw-i'n bwyta mor ychydig, fydd dim cisio llawer o fwyd. Gwelwch! Mi ges y rhain mewn hen gwpwrdd mewn selar," a daliodd yn ei llaw ddwy gwpan China hynafol ac anghyffredin eu patrwm-un wedi amharu ychydig arni. "On' tydyn-nhw'n dlws?"

"Mi fuasai llawer o bobol yn rhoi arian mawr am y cwpanau yma, Llio."

Wnaen-nhw? Dydw-i ddim yn gwybod dim byd am arian, wyddoch."

'Ga' i ych helpu-chi, Llio fach?"

"O, na chewch. Mae-hi mor neis cael gwneud pethau ichi."

Gwyddai Bonnard mai teimlad calon onest merch oedd sŵn y geiriau hyn—calon a oedd yn llefaru ei theimlad heb nac ofn na llyffethair o fath yn y byd. Curai ei galon yn gynt wrth wrando arnynt.

"Rhaid imi beidio â gwarafun ichi'r pleser yna," murmurodd. Edrychodd ar ei hwyneb pur, a symudodd at ei hochr; yn dyner ac yn barchedig iawn, gwasgodd hi ato.

Am eiliad neu ddwy, edrychodd hi yn syth i'w lygaid; yna llanwyd ei llygaid â gwylder, a throdd hwy draw oddi wrtho; cododd gwrid cryf i'w gruddiau, ac ar ei gwddf. Crynai ei llaw yn ei law ef, a cheisiodd ei thynnu ymaith. Ni cheisiodd yntau ei rhwystro, oblegid gwelai fod y reddf fenywaidd wedi ei chynhyrfu o'i mewn, a churodd ei galon yn gynt gan obaith y gallai hyn oleuo ei chof a'i deall. Rhyddhaodd hi; symudodd hithau ar unwaith at y bwrdd. Am rai munudau, bu'n ddistaw heb gymaint ag edrych arno. Fesul ychydig, ciliodd y dylanwad, a