Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dwy o FABANOD o'r enw Grace, plant Mr. W
DAVIES, gynt o'r Tai Hirion, Arfon.

Dwy "RAS" fach o'r dyrus fyd—a droswyd
I'r isel fedd ennyd;
Yn fuan d'ont i fywyd,
Gol-yng-nghol o'u gwely 'nghyd.
—Eben Fardd.




Ar Fedd Tri PLENTYN.

(Yn Mynwent Gwyddelwern, Meirion.)


Y tri blagur trwy blygu—hwy a gyd
Godwyd gan yr Iesu,
O le blin i'w hail blanu
Yn ngardd y nef, gartref cu.




Ar Fedd PLENTYN o'r enw Rhys, yn Celynin, Meirion.

Yr aeddfed faban ireiddfin,—Rhys fwyn,
A'i wres fu mor iesin,
Mewn oer fedd mae'n awr ei fin,
Clo'i wyneb pridd oer c'lynin.
—Robert Tecyn Meirion.




Ar Fedd BABAN o'r enw John.

Ai mewn bedd mae Ioan bach ?—O! ië!
Ioan sy'n llwch bellach!
Ond daw'n ol etto'n iach,
At ail—oesi'n fil tlysach.
—Eben Fardd.




BABAN.

Yn dirf fe ddaeth i'w derfyn—y mwynder,
Cyn myn'd arno'n wanwyn:
Ow! deol tlws flodeuyn
I bridd.—Beth a barai hyn?
—Caledfryn.

Pa achos? beth ond pechod—ddygai'r rhai
Hawddgar hyn i'r beddrod;
Ond, trwy'r lawn, tröai y rhod
Ar bob un o'r bahanod.
—Emrys.