Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Mynwent PENMACHNO.

Mewn beddrod—tywod tawel—erys hon
Dros enyd, yn isel;
Ond, i fyny, ddydd a ddel,
Hi ddring wrth floedd yr Angel.
—Owen Gethin Jones.




Yn Mynwent LLANRHAIADR, Dyffryn Clwyd.

I'r bedd marwedd mud—daethom,
O deithio mewn drygfyd;
Ni ganwn byth mewn gwynfyd,
'Nol dod o'r bedd yn niwedd byd.




Yn Mynwent DOLGELLAU, Meirion.

Mae dau Ddoctor yn gorwedd,—dau Ruffydd,
O dra hoffus rinwedd;
Yn unawl mewn un anedd;
Tad arab a mab ym medd.




Yn Mynwent LLANWEIRYDD, Môn.

Yma y gorwedd corph William Edwards, o'r Caerau, yr
hwn a ymadawodd a'r fuchedd hon ar y 24ain o
Chwefror, 1668, yn 168 mlwydd oed.

Er cryfder corff pêr, purwyn,—
Arbenig ei wreiddyn;
Ac er mawl, ac aur melyn,—er bonedd
Bedd yw anedd diwedd dyn.
—Bardd Nantglyn.




Yn Mynwent DOLGELLAU, Meirion.

Huno yn gryno mewn gro—daearen
Dŷ oeraidd, heb gyffro;
Daw gorchymyn drylwyn dro,
Duw hynod i'n dihuno.