Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn NGHILFOWYR, Deheudir Cymru.

ENOCH FRANCIS,

Gweinidog Eglwys y Bedyddwyr yn y Castell-newydd, a'i hamryw ganghenau;

A orphenodd ei yrfa, trwy lawenydd iddo ei hun,
ond tristwch i lawer, y 4ydd o Chwefror, 1740, yn 51 oed.

"Enoc a rodiodd gyda Duw." (Gen. v. 22.)

MARY, EI WRAIG,

Hefyd a hunodd y 23ain o Awst, 1739, yn 49 oed,

"Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni." (Luc x. 42.)

A NATHANIEL, EU MAB,

A fu farw yn 1749, yn 18 oed.

"Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." (Ioan i. 47.)




MR. EDWARD OWEN, Saddler, Tremadog, a'i WRAIG.

Trwm fu daearu gwraig addfwyn, dirion,
Gyda'i thêg addysg, a'i doeth agweddion;
Bu er daioni mewn yspryd union,
Yn byw i'r Iesu, yn bur i'w weision;
A mawrhau ei gŵr wneir am ragorion
Ei rinwedd beunydd drwy iawn ddybenion;
Hwy gawsant gyd—fyw'n gyson,—cânt hefyd
Yma esmwythyd am oesau meithion.
—Ioan Madog.




Yn Mynwent LLANFOR, Meirion.

Melus yn mhriddellau'r dyffryn
Cwsg ei gorff, heb boen na chur;
A melusach yn mharadwys
Yw gorphwysfa'r yspryd pur;
Melus fydd i'r ddau gyfarfod,
A chyfodi'n ddedwydd draw;
Wedi huno gyda'r Iesu,
Deffro ar ei ddehau law.