Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y PARCH. J. ROBERTS, Llansilin.

Roberts ydoedd ŵr hybwyll,—a'i orchwyl
Lewyrchai fel canwyll;
Perchen crefydd, ffydd a phwyll
Credadyn cywir didwyll.

Un ydoedd, fel gweinidog,—a'i ddoniau
Yn ddenawl a gwlithog;
Hedd i'r trist, trwy Grist a'i grog,
O ras, bregethai'n wresog.

Mewn hedd, tan lygredd oer len―yr huna,
A'r enaid yn llawen;
At Iesu'n aeddfed dwysen
Aeth o'r byd, a'i waith ar ben.
—Cynddelw.




Y PARCH. GRIFFITH HUGHES, Groeswen, Morganwg.

Tynerwch—tân ei eiriau,—drwy'i einioes,
Wrth drin athrawiaethau;
A gyraeddodd bob graddau,
Yn ei nerth, heb brin wanhau.

Yr hyawdledd fu'n rhedli'—am hiroes,
Fu'n gwneud mawr ddaioni,
Heibio'r aeth, ni cheiff ddim bri,
Mewn tywyll fedd, mae'n tewi.
—Caledfryn.




Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, Aberteifi.

(Bu farw yn 1858, yn 81 mlwydd oed.)

Ca'dd hir oes, a rho'es hi'n rhwydd—i weini
Yn onest i'w Arglwydd;
A than ei gamp aeth o'n gŵydd
Yn hen dad, mewn hun dedwydd.
—Eben Fardd.




Y PARCH. JOSEPH PRYS.

Gwresawg bregethwr grasol,—a didwyll
Gredadyn bucheddol,
Oedd Joseph Prys, dewisol
Was y nef, er oes yn ol.
—Cynddelw.