Efengyl yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd am 56 o flynyddau; a hyny gydag ymroddiad, a nerth, a difrifoldeb ac awdurdod a ymddangosai yn aniflanedig hyd ddiwedd ei oes.
"A ni, gan hyny, yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion."
Y PARCH. JOHN ROBERTS, yn Llandudno.
Isod, dan ofal Iesu,—Ioan fwyn
Yn ei fedd sy'n cysgu;
Haeddog ŵr, hawdd ei garu,
Hynaws, di fost, gonest fu.
Iesu a'i groes i euog rai—'n olud
A selog bregethai;
Ac â chân y cychwynai
O'r hen fyd, ac i'r nef âi.
—I. M.
Y PARCH. J. BREESE, Caerfyrddin.
Enwog weinidog Ion ydoedd,—at Grist
A'i groes dygai filoedd;
Ei Iawn Ef ei destyn oedd,
A'r lle i'w fawr alluoedd.
—Caledfryn.
Y PARCH. EVAN JONES, Cei Newydd,
(Gynt o Langeithio, yr hwn oedd yn enwog
ei ddefnyddioldeb gyda'r Ysgol Sabbothol.)
Wyled, arwisged yr Ysgol—ei du,
Am dad mwyn a doniol;
A'r pwlpud prudd enhuddol,
Mor wag y mae ar ei ol.
—Eben Fardd