SION DAFYDD BERSON.
Yr hwn a gladdwyd y 5ed o Ionawr, 1769, yn 94 mlwydd oed; yn Ysbytty Ifan.
Galar! i'r ddaear oer ddu—aeth athraw
Fu'n meithrin beirdd Cymru;
Llafurus fu'n llefaru,
Diddan fodd y dydd a fu.
Terfynodd, hunodd ryw hyd,—Sion Dafydd
'Madwys â hir fywyd;
Ond cofiwn, eto cyfyd
O'r ddaear bwys ddiwedd byd.
IEUAN GLAN GEIRIONYDD.
(Yn Mynwent Trefriw.)
Fel Bardd rhagorol, ddoniol Dduwinydd,
Bu'n fri i'w genedl, bu'n fawr ei gynydd;
Ac mewn nefol swyn, fel mwyn Emynydd,
Ei ddawn bêr, rywiog, wefreiddia'n bröydd;
A byw yr erys fel gwych Berorydd;
A diwall hynod Feirniad a Llenydd;
A thyner wlith Awenydd—Cymru wyl
Fydd dargrau anwyl ar fedd Geirionydd.
—Ioan Madog.
Ar y TABLET yn Eglwys Trefriw.
Anian a Ieuan a unwyd
Yn ol awenyddol nwyd,
Amrywiaeth mawr ei awen
Nodai'n Bardd i'w wneud yn ben;
Meddai urdd y modd arddun,
Ond teimlad yn anad un.
—Eben Fardd.
Mawrygir y pen-gymreigydd—enwog,
Ieuan Glan Geirionydd;
Tra b'o Côr a Llenorydd,
Ei awen fwyn a'i enw fydd.
—E. O.