Ar Fedd DAU FRAWD IEUAINC.
Boreu anwyl, ond bér einioes—ydoedd
I'r brodyr gwareiddfoes;
O glyw'r byd ynfyd anfoes
Marw hwy yn moreu eu hoes.
Er cael yn dra gwael eu gwedd—man yma
Mewn anmharch gydorwedd,
Yn wiwlon cânt heb waeledd
Gyda'r byd godi o'r bedd.
—Bardd Horeb.
MR. JOHN ROBERTS, Dinbych, y Cantor.
Hyd lán y bedd dilynodd yr Iesu,
A'i ras a ganmolodd;
Yna'i enaid, pan hunodd,
Aeth i fyd sydd wrth ei fodd.
—Caledfryn.
GŴR IEUANC.
Na Gruffydd nid oedd gŵr hoffach,—na brawd
O bur rodiad glanach;
Ond o'i fedd, 'mhen enyd fach,
E' ddaw 'nol fyrdd anwylach.
—Cynddelw.
MR. WILLIAM OWEN, Tremadog, Eifionydd.
Am ein mwyn William mae'r wlad mewn alaeth;
Rhoddai'i iawn haeledd fri i'r ddynoliaeth;
Bu'n para i arwain meibion peroriaeth,
A'i gôr hudolus enwogai'r dalaeth;
Ac ôl ei addysg helaeth—fydd eto,
Yn fawl llawn iddo tra fo llenyddiaeth.
—Ioan Madog.