R. WILSON, y Darluniedydd Arbeiawl.
Athrylith uthr a welwyd—yn Wilson,
Mewn haulserch, heb ddrygnwyd;
Ond tra'n fyw, gan afryw nwyd,
Haul ei oes a wael lyswyd.
Lluniedydd oedd allai nodi—natur,
A'i hynotaf deithi;
Gwenau pefr ei gwyneb hi
A wir luniodd ar leni.
—Cynddelw.
MR. JOHN JONES, Hendre Mawr.
(Yn Mynwent Talybont, ger y Bala.)
Ein hoeswr hynawsedd—o'r Hendre Mawr,
Dröai'n mhob rhinwedd;
Enw da hwn a'i duedd,
Wnaiff i fyd hoffi ei fedd.
—Dewi Havhesp.
Ar Fedd MORWR, yn Llanenddwyn, Meirion.
Trafaeliais trwy orfoledd—yr India,
A'i randir y llynedd;
Eleni mewn gwael annedd,
Ym mîn môr, yma'n y medd.
Och! angau trwm, trwm bob tro,—pa ddewin,
Pwy a ddiangc rhagddo;
Nid oes i'w gael er ffael ffo,
Llwch Enddwyn llechai ynddo.
Yn Mynwent LLANDDERFEL, Meirion.
Yma gorwedda gŵr addfwyn,—a mâd
Gymydog da'i ymddwyn;
Priod a thad mâd a mwyn
O reddf, a gwladwr addfwyn.
—Cynddelw.