Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MR. MORYS HUGHES, Cwmcoryn.

Morys a'i felus foliant—a gariwyd
I fôr y gogoniant;
A dyma lle seinia'r sant
Emyn nefol mewn nwyfiant.
—Eben Fardd.




GWR IEUANGC DUWIOL.

Llaw ieuanc i Dduw'r lluoedd—a ro'es ef,—
Rhyw sant disglaer ydoedd;
Ei siwrnai fer, os ofer oedd,
Siwrnai ofer sy' i'r nefoedd!
—Trebor Mai.




NATHANIEL NATHANIEL, Alltwen, Morganwg.

Nathaniel ei ran anfarwol sydd
Fan yma'n tawel orphwys;
Tra'i yspryd wedi myn'd yn rhydd
I rodio yn mharadwys;
Ei fywyd gloyw'n ngwinllan nef,
A wnai'r Alltwen yn wenach;
A hyn wna'r côf am dano ef
I ninnau yn anwylach.
—Tawenfryn.




MR. SIMON JONES, o'r Bala.

Ow! dyhidlwyd hyawdledd—yn symud
Simon Jones i'r ceufedd;
Gwanwyd Rhyddfrydiaeth Gwynedd,
Rhoed Gwyddfa'r Bala'n y bedd.

Hyf, ëon gawr, safai'n g'oedd—a'i saeth ar
Drais a thwyll yr orsedd;
Dyn i'w wlad, doniol ydoedd,
Ac yn mhob rhan campwr oedd.
—Dewi Havhesp.