Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MAM Y PARCH. D. RICHARDS, Caerphili.

Chwaer ydoedd, pur ei chredo,—a'i bywyd,
Tra bu, yn ei wirio;
Un o brif seintiau ein bro,
Mewn anedd oer mae'n huno.

Daw eilwaith ddydd didoliad—o dŷ'r bedd,
Drwy barch, at ei Cheidwad;
Daw, fore yr adferiad,
O dŷ'r glyn i dir ei gwlad.
—Caledfryn.




PRIOD MR. JOHN JONES, Cerig-y-druidion, Llanberis.

Os doi, 'wir, heb ystyrio,—ddarllenydd,
I'r llanerch hon rywdro,
Dy droediad—araf, araf f'o,—
Mae Ann anwyl yma'n huno!
—Elidirfab.




Yn Mynwent TALYBONT, Meirion.

Y wyryf heinyf a hunodd,—un hoff
Jane Hughes a'n gadawodd;
Clai tew y bedd cul a'i tôdd,
Ac yn ieuanc hon wywodd.

Yn feunyddiol gwnai fyw'n addas—i enw
Anwyl Crist a'i deyrnas;
Ac i le hardd gloyw urddas
Uwch y glyn aeth o'r Bach Glas.
—Ap Vychan.




BEDDARGRAFF FY MAM.

Ni welais erioed anwylach,—llanerch:
Hawlia'r lle hwn, mwyach,
Lonydd gan bob rhyw linach,—
Yma mae bedd fy mam bach.
—Dewi Havhesp.