Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

ADRODDWYD yr ystraeon bychain sydd yn y llyfr hwn i ddifyrru plentyn. Gwêl y cyfarwydd nad oes ôl creu, na fawr o ôl trefnu, arnynt. Pan elwid am ystori, yr oedd yn rhaid ei dweyd ar unwaith; ni adewid amser i barotoi. Yr oeddwn yn cael mynd i'r cyfeiriad a fynnwn; yr unig amod oedd hwn,—yr oedd yn rhaid i'r stori fod yn wir. Felly dywedwn ryw hen stori ddywedai fy nhad wrthyf finnau,—i'm cadw'n ddiddig tan ddeuai mam adre, neu i dynnu fy sylw oddiwrth rywbeth a'm blinai, i'm suo i gysgu, neu i'm cadw'n effro. Weithiau dywedwn rywbeth oeddwn wedi ei ddarllen; ac felly clywai Cymry bach mynyddig ystori adroddid i blant, ganrifoedd yn ôl, ar fynydd Gilboa neu yn ynysoedd Groeg neu yn hafnau Norway.