Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MEWN CYFYNGDER

YR oedd cwch ryw fore ar draeth sir Fon, yn barod i'w berchennog fynd i'r môr i saethu adar gwylltion. Yr oedd dryll llwythog ynddo hefyd. Yr oedd pump o blant yn mynd heibio i'r ysgol, a gwelent y cwch yn wâg. Aethant iddo i eistedd; a rywsut, heb iddynt wybod, llithrodd y cwch i'r môr. Yr oedd y tonnau'n cario'r plant yn gyflym i'r môr mawr. Gwaeddasant, ond nid oedd neb yn y golwg i estyn cymorth iddynt. Yr oedd y tonnau'n mynd yn fwy o hyd, a'r cwch yn rhuthro'n wylltach ymlaen uwchben y dyfnder mawr. Ac yr oedd y tir mynd yn bellach bellach o hyd, ac nid oedd obaith y clywai neb eu llais.

Cofiodd un o'r bechgyn fod y dryll yn y cwch. Nid oedd yr un ohonynt wedi cydio mewn dryll erioed o'r blaen; ac yr oedd arnynt fwy o'i ofn na phe buasai'n sarff wenwynig. Ond rhoddodd y bachgen sawdl y gwn wrth ei ysgwydd, ac anelodd ei ffroen i'r awyr. Mewn ofn mawr edrychai'r plant ereill arno'n tanio. Ergyd! Dyna glec fawr, a llond y cwch o arogl powdwr. Dacw rywun ar y lan. Dacw gwch arall yn dod ar eu holau, a dynion cryfion yn ei rwyfo. A chyn pen ychydig iawn yr oedd y plant ar y lan. Ond yr oedd yn rhy hwyr iddynt fynd i'r ysgol.