"'Roedd bachgen Wil y teiliwr, un balch a drwg yw'r cna', |
CERBYDAU.
DEFNYDDIR llawer math o anifail i dynnu cerbydau. Ar wastadedd Etruria gwelais bedwar eidion gwyn yn tynnu cerbyd, a'r tresi am eu pennau, oherwydd yn ei ben y mae nerth yr ych. Gwelais ŵr cyfoethog ym Mharis â phedwar zebra, yn eu prydferthwch amryliwiog, yn tynnu ei gerbyd trwy'r ystryd. Peth cyffredin iawn yw gweld cwn ar y cyfandir yn tynnu troliau, ond ni chaniatâ cyfraith y wlad hon iddynt gael eu rhoi mewn caethiwed felly. Y march yw'r goreu am dynnu cerbyd, neu'r asyn amyneddgar.
WIL DDRWG.
YR oedd dau fachgen yn yr hen Lan a lysenwid Wil Ddrwg a Ben yr Ofn. Y mae gwyneb y ddau'n esbonio eu llysenwau,—un ofnus iawn oedd Ben, ac un direidus iawn oedd Wil. Ryw dro cyflogwyd Ben gan y person i chwynnu ei ardd. Dywedid fod ysbryd rhyw hen ladi yn yr ardd; ac yr oedd yn rhan o delerau cyflogiad Ben ei fod i gael dod o'r ardd cyn nos.