Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel tad wrth ei blant y tosturia,
Mae'n cofio mai llwch ydynt hwy;
O f'enaid, bendithia yr Arglwydd,
Bendithia yr Arglwydd byth mwy.

William Nantlais Williams (Nantlais)

carchar tywyll du Caerdydd

'45[1] Diolch am yr Efengyl.
10. 7. 6.

1. DIOLCH i Ti, yr Hollalluog Dduw,
Am yr Efengyl sanctaidd.
Haleliwia, Amen.

2.Pan oeddym ni mewn carchar tywyll du,
Rhoist in oleuni nefol.
Haleliwia, Amen.

3. O! aed, O! aed yr hyfryd wawr ar led!
Goleued ddaear lydan!
Haleliwia, Amen.

cyf. David Charles (1762-1834)


William Walsham How
T Gwynn Jones

46[2] Haleliwia.
10. 10. 10. 4.

1.Am rif y saint y sydd o'u gwaeau'n rhydd,
I ti a roes gerbron y byd eu ffydd,
Dy enw, Iesu, bendigedig fydd:
Halelwia, Halelwia!

2.Ti oedd eu craig, eu cyfnerth hwy a'u mur,
Ti, Iôr, fu'n Llywydd yn eu cad a'u cur,
Ti yn y ddunos oedd eu golau pur:
Halelwia, Halelwia!

3. O! boed i'th filwyr ffyddlon pur a drud
Ddal fel y saint, fu gynt mor ddewr eu bryd,
Nes cael fel hwythau goron aur i gyd,
Haleliwia, Haleliwia!


  1. Emyn rhif 45, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 46, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930