3. Ffarwél, chwi haul a lloer,
Ffarwél, chwi sêr y ne';
Mae presenoldeb pur fy Nuw
Yn well yn llanw'r lleol
Rhyw faith dragwyddol ddydd,
Goleuni sydd yn fwy,
Yw'r hwn a ddaw oddi wrth ei wedd,
Na'u holl ddisgleirdeb hwy.
William Williams, Pantycelyn
49[1] Cariad Duw.
M. C.
1.TYDI, fy Arglwydd, yw fy rhan,
A doed y drygau ddêl;
Ac er bygythion uffern fawr,
Dy gariad sydd dan sêl.
2.Oddi wrthyt rhed, fel afon faith,
Fy nghysur yn ddi-drai;
O hwyr i fore, fyth yn gylch,
Dy gariad sy'n parhau.
3.Uwch pob rhyw gariad is y nef
Yw cariad pur fy Nuw;
Anfeidrol foroedd dyfnion maith,
Heb fesur arno yw.
4.Dechreuodd draw cyn creu y byd, bro
Fe bery byth ymlaen,
Heb un cyfnewid, a heb drai,
Pan elo'r byd yn dân.
5.O! dewch a gwelwch chwiliwch ef,
Anfeidrol gariad mawr,
Ag sydd yn maddau miloedd myrdd
O feiau yn yr awr.
6.Mae'n para'n ffyddlon byth heb drai,
Ffordd bynnag try y byd,
A phe cymysgai tir a môr
Yr un yw 'Nuw o hyd.
William Williams, Pantycelyn
- ↑ Emyn rhif 49, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930