Prawfddarllenwyd y dudalen hon
2 Mewn ofnau'r wyf, a braw,
Bob llaw gelynion sydd ;
O! addfwyn Iesu, saf o'm rhan,
A thyn y gwan yn rhydd.
3 Mae rhinwedd yn dy waed
I faddau beiau mwy
Nag y gall angel chwaith na dyn,
Byth rifo monynt hwy.
4 Mae ffynnon ar y bryn
A ylch yn wyn a glân
Bechodau o'r ffieiddia' 'rioed
Rifedi'r tywod mân.
5 'D oes diwedd fyth na thrai
Ar gariad angau loes;
Uwch pris o'r gwerthfawrocaf gaed
Yw haeddiant gwaed y groes.
96 Nodded Gras y Nef.
M. B.
1 YN nodded gras y nef
Wynebwn ar y byd;
Nid ofnwn ei drallodion ef,
Na'i demtasiynau i gyd.
2 Er maint ei lafur blin
A'i aml ofidiau maith,
Fe leddfa Duw yr arw hin,
Fe ysgafnha y gwaith.
3 Yn haeddiant gwaed y Groes
Wynebwn orsedd Duw;
Er amled yw pechodau oes
Cawn yn ei gysgod fyw.