4.O! na allwn rodio er ei glod,
Ac iddo bellach fyw,
A phob anadliad fynd i maes
I ganmol gras fy Nuw.
William Williams, Pantycelyn
106[1] Ffyddlondeb Crist.
M. C.
1.NI fethodd gweddi daer erioed
A chyrraedd hyd y nef;
Ac mewn cyfyngder, f'enaid, rhed
Yn union ato Ef.
2.Ac nid oes gyfaill mewn un man,
Cyffelyb iddo'n bod,
Pe baem yn chwilio'r ddaear faith,
A holl derfynau'r rhod.
3.Ym mhob rhyw ddoniau mae E'n fawr;
Anfeidrol yw ei rym,
Ac nid oes pwysau ar ei ras,
Na'i haeddiant dwyfol ddim.
4.Mae ei ffyddlondeb fel y môr,
Heb fesur, a heb drai;
A'i drugareddau hyfryd sy'n
Dragywydd yn parhau.
William Williams, Pantycelyn
107[2] Ffyddlondeb Crist.
M. C.
1.ANTURIAF at ei orsedd fwyn
Dan eithaf tywyll nos;
Ac mi orffwysaf, doed a ddêl,
Ar haeddiant gwaed ei groes.
2.Mae ynddo drugareddau fil,
A chariad heb ddim trai,
A rhyw ffyddlondeb fel y môr
At ei gystuddiol rai.