3.Doed y trueiniaid yma 'nghyd,
Finteioedd heb ddim rhi';
Cânt eu diwallu oll yn llawn
O ras y nefoedd fry.
4.Fe ylch ein beiau i ffwrdd â'i waed,
Fe'n canna oll yn wyn;
Fe'n dwg o'r anial maith i maes,
I ganu ar Seion fryn.
William Williams, Pantycelyn
111[1] Cariad a Gras yng Nghrist.
M. C.
1.WEL dyma gyfoeth gwerthfawr llawn,
Uwch holl drysorau'r llawr,
A roed i'w gadw oll ynghyd
Yn haeddiant Iesu mawr.
2.Ei gariad lifodd ar y bryn,
Fel moroedd mawr di—drai;
Ac fe bwrcasodd yno hedd
Tragwyddol i barhau.
3.Pan syrthio'r sêr fel ffigys ir,
Fe bery gras fy Nuw:
A'i faith ffyddlondeb tra fo nef,
Anghyfnewidiol yw.
William Williams, Pantycelyn
112[2] Awdurdod Crist.
M. C.
1.'D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth,
Na ffafor neb, na'i hedd,
Ond Hwnnw'n unig gŵyd fy llwch
Yn fyw i'r lan o'r bedd.
2.Mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad,
Ar orsedd fawr y nef;
Ac y mae'r cyfan sydd mewn bod
Dan ei awdurdod Ef.