Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

141[1] Canmol Iesu.
55. 65. D.

1 YR Iesu'n ddi-lai
A'm gwared o'm gwae;
Achubodd fy mywyd,
Maddeuodd fy mai;
Fe'm golchodd yn rhad,
Do'n wir, yn ei waed,
Gan selio fy mhardwn
Rhoes imi ryddhad.

2 Fy enaid i sydd
Yn awr, nos a dydd,
Am ganmol fy Iesu
A'm rhoddes yn rhydd:
Ffarwél fo i'r byd,
A'i bleser ynghyd ;
Ar drysor y nefoedd
Fe redodd fy mryd.

3 'R wy'n gweled bob dydd
Mai gwerthfawr yw ffydd ;
Pan elwy' i borth angau
Fy angor i fydd :
Mwy gwerthfawr im yw
Na chyfoeth Periw;
Mwy diogel i'm cynnal
Ddydd dial ein Duw.

—Morgan Dafydd, Caio


142[2] Crist a'i Aberth.
557. 779.

1 A WELSOCH chwi Ef?
A welsoch chwi Ef?
Iesu, fy Mhrynwr a'm Duw!
Dros droseddwyr fel myfi,
Rhoes ei Hun ar Galfari,—
Trwy gyfiawnder fy Meichiau caf fyw.


  1. Emyn rhif 141, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 142, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930