170[1] Addasrwydd y Gwaredwr.
76. 76. D.
1 AGORODD ddrws i'r caethion
I ddod o'r cystudd mawr;
Â'i werthfawr waed fe dalodd
Eu dyled oll i lawr:
Nid oes dim damnedigaeth
I neb o'r duwiol had;
Y gwaredigion canant
Am rinwedd mawr ei waed.
2 Wel dyma Un sy'n maddau
Pechodau rif y gwlith;
'D oes mesur ar ei gariad,
Na therfyn iddo byth;
Mae'n 'mofyn lle i dosturio,
Mae'n hoffi trugarhau;
Trugaredd i'r amddifaid
Sydd ynddo i barhau.
3 Teilwng yw'r Oen a laddwyd
O'r holl ogoniant mawr,
Trwy ganol nef y nefoedd,
Ac yma ar y llawr;
Pan elo'r holl greadigaeth
Yn ulw gan y tân,
Teilyngdod Iesu drosof
Fydd fy nhragwyddol gân.
- Morgan Rhys
171[2] Iechydwriaeth trwy Grist.
76. 76. D.
1 DAETH inni iechydwriaeth
Trwy eithaf chwŷs a gwaed;
Mae'n codi pechaduriaid
O'r dyfnder ar eu traed;
Nid af i 'mofyn haeddiant,
Trwy'r nef na'r ddaear lawr,
Ond haeddiant pen Calfaria—
Rhinweddau'r aberth mawr.
anhysbys
O gasgliad Grawnsypiau Canaan 2; Robert Jones, Rhoslan.