Pan elont hwy yn eisiau,
Pam byddaf fi yn drist
Tra caffwyf weled wyneb
Siriolaf Iesu Grist?
William Williams, Pantycelyn
o Golwg ar Deyrnas Crist
175[1] Anfeidrol Gariad Crist.
76. 76. D.
1 ANGYLION doent yn gyson,
Rifedi gwlith y wawr,
Rhoent eu coronau euraid
O flaen y fainc i lawr,
A chanent eu telynau
Ynghyda'r saint yn un:
Fyth, fyth ni chanant ddigon
Am Dduwdod yn y dyn.
2 Ni fuasai gennyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A'r twllwch dudew byth,
Oni buasai'r Hwn a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari
O ryw anfeidrol gariad
Yn cofio amdanaf fi.
William Williams, Pantycelyn
176[2] Cariad yn disgleirio ar y Groes.
77. 77. 77.
1 DACW gariad nefoedd wen
Yn disgleirio ar y pren;
Dacw daledigaeth lawn.
I ofynion trymion iawn;
Iesu gollodd ddwyfol waed,
Minnau gafodd wir iachâd.
2 Na ddoed gwael wrthrychau'r byd
I gartrefu yn fy mryd;