Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Dy fraich a'n dug yn ddiogel
Drwy ffordd oedd mor nodedig
A'r ffordd drwy'r môr a dorraist, Iôr,
I'th bobol etholedig.
D'ogoniant mawr a'n cuddiodd,
Dy law fu yn ein coledd,
Ac wele ni, 'n ôl mynd drwy'r lli,
Yn ymdaith mewn gorfoledd.

4 Ti, Iesu, a orchfygaist
Y byd a malais Satan;
Trwy ras y nef dyrchafwn lef
Mewn mawl i Ti, ein tarian.
Gorchfygwn yn dy nodded,
Gan dderbyn gras y nefoedd;
Ac am dy ddawn dy foli wnawn,
A'th ganmol yn oes oesoedd.

Charles Wesley,
cyf. William Owen Evans


181[1] Pwy fel Efe!
84. 84. 8884.

1 UN a gefais imi'n gyfaill;
Pwy fel Efe!
Hwn a gâr yn fwy nag eraill;
Pwy fel Efe!
Cyfnewidiol ydyw dynion,
A siomedig yw cyfeillion;
Hwn a bery byth yn ffyddlon;
Pwy fel Efe!

2 F'enaid, glŷn wrth Grist mewn cyni;
Pwy fel Efe!
Ffyddlon yw ym mhob caledi;
Pwy fel Efe!
Os yw pechod yn dy ddrysu,
Anghrediniaeth am dy lethu,
Hwn a ddichon dy waredu;
Pwy fel Efe!


  1. Emyn rhif 181, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930