Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Tyred gyda mi trwy'r fyddin,
Gyda mi yn erbyn llu;
Yn dy enw mi goncweriaf
Bawb sy'n sathru d'enw cu;
D'enw Di a faeddodd angau,
Faeddodd uffern fawr ei grym,
Bellach ni all cnawd a phechod
Wrthwynebu d'enw ddim.

William Williams, Pantycelyn


Capel y Tabernacl, Rhuthun

207[1] Pabell y Cyfarfod
87. 87. D.

1 DYMA babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofruddion,
Dyma i gleifion Feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneud ei nyth,
A chyfiawnder pur y nefoedd
Yn siriol wenu arno byth.

2 Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
I gael dihangfa o ddrygau'r ddraig;
Mewn addewid gynt yn Eden,
Fe gyhoeddwyd Had y wraig;
Ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol,
Ffordd i godi'r meirw'n fyw;
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
I hedd a ffafor gyda Duw.

Ann Griffiths



208[2] Brawd erbyn Caledi
87. 87. D.

1 DYMA frawd a anwyd inni
Erbyn cledi a phob clwy';
Ffyddlon ydyw, llawn tosturi,
Haeddai gael ei foli'n fwy:
Rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion,
Ffordd i Seion union yw;
Ffynnon loyw, Bywyd meirw,
Arch i gadw dyn yw Duw.

Anhysbys


  1. Emyn rhif 207, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 208, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930