Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/246

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dysg im gonero lle mae dyn
Yn rhy egwan wrtho'i hun;
Yn dy obaith dwg fi 'mlaen
Trwy beryglon llif a thân.

4 Ysbryd sanctaidd, rho i mi
Fod yn sanctaidd fel Tydi:
Ynof pob rhyw ras cryfha,
Dysg im fyw i bethau da;
Ac i'r Duw a'th roddodd Di,
Ysbryd perffaith, canaf fi.

Thomas Toke Lynch
Cyf: Howell Elvet Lewis (Elfed)

John Jenkins (Gwili)

258[1] Y Diddanydd Arall
86. 84.

1 DIDDANYDD anfonedig nef,
Fendigaid Ysbryd Glân!
Hiraethwn am yr awel gref,
A'r tafod tân.

2 Erglyw ein herfyniadau prudd
Am brofi o'th rad yn llawn;
Gwêl a oes ynom bechod cudd
Ar ffordd dy ddawn.

3 Cyfranna i'n heneidiau trist
Orfoledd meibion Duw;
A dangos inni olud Crist
Yn fodd i fyw.

4 Am wanwyn Duw dros anial gwyw
Dynolryw deffro'n llef;
A dwg yn fuan iawn i'n clyw
Y sŵn o'r nef.

5 Rho'r hyder anorchfygol gynt
Ddilynai'r tafod tân;
Chwŷth dros y byd fel nerthol wynt,
O! Ysbryd Glân.

John Jenkins (Gwili)


  1. Emyn rhif 258, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930