295[1] Galwad yr Efengyl.
66. 66.88.
1 DEWCH, hen ac ieuainc, dewch,
At Iesu, mae'n llawn bryd;
Rhyfedd amynedd Duw
Ddisgwyliodd wrthym cyd:
Aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau;
Mae drws trugaredd heb ei gau.
2 Dewch, hen wrthgilwyr trist,
At Iesu Grist yn ôl;
Mae'i freichiau'n awr ar led,
Fe'ch derbyn yn ei gôl:
Mae Duw yn rhoddi eto'n hael
Drugaredd i droseddwyr gwael.
Morgan Rhys
296[2] Bendithion Iechydwriaeth.
668. D.
1 O! IECHYDWRIAETH fawr,
A lifodd im i lawr,
Yn ffrydiau pur grisialaidd byw;
Maddeuant im a gaed,
A heddwch yn y gwaed,
O gariad rhad ein Tad a'n Duw.
2 'D oes unrhyw drysor drud
Fel Ef o fewn y byd;
Mae'n gwneud fy ysbryd llesg yn llon:
Mwy'n llawen byddaf byw
Yn noddfa bur fy Nuw,
Dan holl gystuddiau'r ddaear hon.
3 Mi dreuliaf oriau f'oes
Yn dawel dan y groes,
Ond im gael edrych ar dy wedd:
Perffeithrwydd pleser yw
Y wledd o gariad Duw,
Fy holl ddiddanwch i a'm hedd.
- Nathaniel Williams