299[1] Galwad yr Efengyl.
76. 76. D.
1 O! ARGLWYDD, galw eto
Fyrddiynau ar dy ôl,
A dryllia'r holl gadwynau
Sy'n dal eneidiau'n ôl;
A galw hwynt o'r dwyrain,
Gorllewin, gogledd, de,
I'th eglwys yn ddiatal—
Mae digon eto o le.
Dafydd Jones o Gaeo
300[2] Cyflawnder yr Iechydwriaeth.
76. 76. D.
1 HYFRYD lais efengyl hedd
Sydd yn galw pawb i'r wledd;
Mae gwahoddiad llawn at Grist,
Oes, i'r tlawd newynog trist:
Pob cyflawnder ynddo cewch:
Dewch a chroeso, dlodion dewch.
2 Talodd Crist anfeidrol Iawn
Ar y croesbren un prynhawn;
Llifodd ar Galfaria fryn
Ddŵr a gwaed i'n golchi'n wyn:
Iechydwriaeth sydd heb drai:
Dewch i'r ffynnon, aflan rai.
Galwad yr Efengyl.
- Peter Jones (Pedr Fardd)
301[3] Galwad yr Efengyl
77. 87. D.
1 EHEDED iechydwriaeth
Dros gyrrau'r holl greadigaeth ;
A doed ynysoedd pell y byd
I gyd-gael meddyginiaeth:
Mae'r Brenin ar ei orsedd
Yn siriol yn ymhwedd
Ar bechaduriaid tlodion gwael
Ddod ato i gael ymgeledd.
Morgan Rhys