311[1] Effeithiau'r Oruchafiaeth.
87. 87. D.
1 CAPTEN mawr ein hiechydwriaeth
Welaf yn y frwydyr hon;
Holl elynion ei ddyweddi'n
Gorfod plygu ger ei fron;
Plant afradlon sy'n dod adref,
A fu 'mhell o dir eu gwlad;
Rhai fu'n fudion sy'n clodfori
Duw am iechydwriaeth rad.
Morgan Rhys
312[2] Yr Iechydwriaeth yng Nghrist.
88. 88. 88.
1 OES modd i mi, bechadur gwael,
Gael rhan yng ngwaed fy Mhrynwr hael?
Ai drosof fi dioddefodd loes,
Pan fu Ef farw ar y groes?
Rhyfeddol gariad Tri yn Un
Oedd agor dôr i gadw dyn.
2 Pwy all amgyffred cariad Duw—
Rhoi 'i Fab er mwyn i ddyn gael byw?
Ni all y seraff pennaf sy
Byth ddirnad dyfnder cariad cu.
Rhyfedd yw haeddiant Calfari:
Cyrhaeddodd hwn fy enaid i.
3 Gadawodd orsedd fawr ei Dad;
Mor rhydd, mor fawr ei gariad rhad!
Fe'i rhoes ei Hun yn aberth drud
Dros hil syrthiedig Adda i gyd:
Trugaredd oll-trugaredd rad!
Caiff myrdd eu bywyd yn ei waed.
- Charles Wesley
Cyf anhysbys
- Charles Wesley