316[1] Undod yr Eglwys.
M. C.
1 CYDUNED seintiau daear lawr
A thyrfa fawr y nef,
I ganu clodydd Iesu mawr:
Un ydynt ynddo Ef.
2 Un teulu dedwydd sydd gan Dduw,
Un Eglwys fyw sy'n bod;
Mae rhan o fewn y nefol lys,
Rhan arall is y rhod.
3 Ehedeg i'r anfarwol fyd
Mae miloedd bob rhyw awr;
Mae'n tynfa ninnau, ddydd a nos,
I'r tragwyddoldeb mawr.
4 0! am gael uno gyda'r llu
A gyrchodd at y nod,
Ac ar adenydd cariad cu
Ehedeg uwch y rhod.
Charles Wesley
Cyf Anhysbys
317[2] Gogoniant Seion
M. C. D.
1 FE welir Seion fel y wawr,
Er saled yw ei gwedd,
Yn dod i'r lan o'r cystudd mawr,
'N ôl agor pyrth y bedd;
Heb glaf na chlwyfus yn eu plith,
Yn ddisglair fel yr haul,
Yn y cyfiawnder dwyfol byth
A wnaed gan Adda'r Ail.
Trefniant gan Morgan Rhys
318[3] SALM V. 1, 2, 7, 11, 12.
M. S.
1 ARGLWYDD, clyw 'ngweddi yn ddi-ball, |