3 Y dydd y gelwais arnat Ti,
Gwrandewaist fi yn fuan;
Ac yno nerthaist, â chref blaid,
Fy enaid i oedd egwan. E.P.
329[1] Tegwch Seion.
M.S.
1 MAE Eglwys Dduw fel dinas wych,
Yn deg i edrych arni:
Ei sail sydd berl odidog werth,
A'i mur o brydferth feini.
2 Llawenydd yr holl ddaear hon
Yw mynydd Seion sanctaidd;
Preswylfa annwyl Brenin nef
Yw Salem efengylaidd.
3 Gwyn fyd y dinasyddion sydd
Yn rhodio'n rhydd ar hyd-ddi;
Y nefol fraint i minnau rho,
O! Dduw, i drigo ynddi.
—Benjamin Francis
330[2] Undeb Cristionogol.
M. H.
<poem>
1 DUW, tyrd â'th saint o dan y ne',
O eitha'r dwyrain bell i'r de,
I fod yn dlawd, i fod yn un,
Yn ddedwydd ynot Ti dy Hun.
2 Un llais, un sŵn, un enw pur,
O'r gogledd fo i'r dwyrain dir,
O fôr i fôr, o gylch y byd,
Sef enw Iesu oll i gyd.
3 Na foed gan un pererin mwy
Ganiadau ond am farwol glwy';
A phan deyrnaso'i Ysbryd Ef,
Y ddaear dywyll dry yn nef.