3 Doed Paganiaid yn eu twllwch,
Doed y Negro dua'u lliw,
Doed addolwyr yr eilunod
I weld tegwch Iesu'n Dduw ;
Deued llu heb ddim rhi'
Fyth i ganu am Galfari.
William Williams, Pantycelyn
420[1] Gorfoledd Nef a Daear.
87. 87. D.
1 MI debygaf clywaf heddiw
Sŵn caniadau draw o bell,
Torf yn moli am waredigaeth,
Ac am ryddid llawer gwell;
Gynau gwynion yw eu gwisgoedd
Palmwydd hyfryd yn eu llaw,
A hwy ânt gyd â gogoniant
'Mewn i'r bywyd maes o law.
2 Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
Y cyflawnir pob rhyw sillaf
A lefarodd Iesu erioed;
De a gogledd yn fyrddiynau
Ddaw o eithaf tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
'Mewn i Salem bur ynghyd.
William Williams, Pantycelyn
421[2] Gwaredigaeth trwy Grist.
87. 87. D.
1 MEWN anialwch 'r wyf yn trigo,
Temtasiynau ar bob llaw,
Heddiw, tanllyd saethau yma,
Fory, tanllyd saethau draw;
Minnau'n gorfod aros yno,
Yn y canol, rhwng y tân ;
Tyrd, fy Nuw, a gwêl f'amgylchiad,
Yn dy allu tyrd ymlaen.