3 O! Brynwr mawr y byd, |
William Williams, Pantycelyn
506[1] Cadw'r llwybyr cul
664. 6664.
1 GWNES addunedau fil
I gadw'r llwybyr cul,
Ond methu'r wy';
Preswylydd mawr y berth,
Chwanega eto nerth
I ddringo'r creigiau serth
Heb flino mwy.
2 Gelynion lawer mil
Sy o ddeutu'r llwybyr cul,
A minnau'n wan;
Dal fi â'th nerthol law
Rhag cŵympo yma a thraw:
Ym mhob rhyw drallod ddaw
Bydd ar fy rhan.
3 Dan gysgod gwych y pren
Sy â'i frigau uwch y nen,
Trig f'enaid byw;
Er g'lynion rif y gwlith,
A sŵn y stormydd chwith,
Mi lechaf tano byth,
Fy noddfa yw.
Morgan Rhys
507[2] "Gwyn ei fyd."
664. 6664.
1 GWYN fyd y duwiol was |