Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

SALMAU A GORCHANAU ERAILL.

1[1] SALM I.

GWYN ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd: pechad|uriaid, || ac nid | eistedd : yn eis-| teddfa gwat|warwyr. ||

2 Ond sydd â'i ewyllys yng nghyfraith yr | Arglwydd ; || ac yn myfyrio yn ei | gyfraith: Ef | ddydd a | nos. ||

3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan a- | fonydd | dyfroedd, || yr hwn a rydd ei | ffrwyth | yn ei | bryd ||

4 A'i ddalen: ni | wywa; || a pha beth bynnag a | wnêl, e- | fe a | lwydda. ||

5 Nid felly y | bydd yr an- | nuwiol; || ond fel mân us yr hwn a | chwâl y | gwynt | ymaith. ||

6 Am hynny yr annuwiolion ni | safant : yn y | farn, | na phechaduriaid yng nghynull- | eidfa | y rhai | cyfiawn. ||

7 Canys yr Arglwydd a edwyn | ffordd y : rhai cyfiawn || ond ffordd yr annuw- | iolion | a ddi-| fethir. ||

2[2] SALM VIII.

ARGLWYDD ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr |höll |ddaear!|| yr Hwn a osodaist dy o- | goniant | uwch y | nefoedd. ||

2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o | achos dy el- | ynion, i osteguy | gelyn a'r ymddi- | alydd. ||


  1. SALMAU A GORCHANAU ERAILL rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. SALMAU A GORCHANAU ERAILL rhif 2, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930