523[1] Pwyso ar Drugaredd.
76. 76. D.
1 ATOLWG, Arglwydd, gwrando,
Rwy'n curo wrth dy ddôr
Gan deimlo 'maich yn drymach
Na thywod mân y môr:
Er cymaint yw fy llygredd,
Mwy dy drugaredd Di;
O! crea anian fywiol,
Anfarwol, ynof fi.
- Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)
524[2] Ymbil am Faddeuant.
76. 76. D.
1 PECHADUR wyf, O! Arglwydd,
Sy'n curo wrth dy ddôr;
Erioed mae dy drugaredd
Ddiddiwedd imi'n stôr:
Er iti faddau beiau
Rifedi'r tywod mân,
Gwn fod dy hen drugaredd
Lawn cymaint ag o'r blaen.
2 Dy hen addewid rasol
A gadwodd rif y gwlith
O ddynion wedi eu colli
A gân amdani byth;
Er cael eu mynych glwyfo
Gan bechod is y nen,
Iacheir eu mawrion glwyfau
 dail y bywiol bren.
3 Gwasgara'r tew gymylau
Oddi yma i dŷ fy Nhad;
Datguddia imi beunydd.
Yr iechydwriaeth rad;
A dywed air dy Hunan
Wrth f'enaid clwyfus trist,
Dy fod yn maddau 'meiau
Yn haeddiant Iesu Grist.
Morgan Rhys