Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/402

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Cymer Di fy llais yn lân,
Am fy Mrenin boed fy nghân;
Cymer fy ngwefusau i,
Llanw hwynt â'th eiriau Di.

4 Cymer f'aur a'r da sydd im,
Mi ni fynnwn atal dim;
Cymer fy nghyneddfau'n llawn,
I'th wasanaeth tro bob dawn.

5 Cymer mwy f'ewyllys i,
Gwna hi'n un â'r eiddot Ti;
Cymer iti'r galon hon
Yn orseddfainc dan fy mron.

6 Cymer fy serchiadau, Iôr,
Wrth dy draed 'r wy'n bwrw eu stôr ;
Cymer, Arglwydd, cymer fi,
Byth, yn unig, oll, i Ti.

F. R. HAVERGAL,
Cyf. John Morris-Jones.


534[1] Canu am y Gwaed.
77. 77. 77.

1 BETH sydd imi yn y byd ?
Gorthrymderau mawr o hyd ;
Gelyn ar ôl gelyn sydd
Yn fy nghlwyfo nos a dydd.
Meddyg archolledig rai,
Tyrd yn fuan i'm iacháu.

2 O! na allwn, tra fawn byw,
Rodio bellach gyda Duw;
Treulio f'oriau iddo'n llwyr
O foreddydd hyd yr hwyr ;
Canu am ei werthfawr waed
Nes meddiannu'r nefol wlad.

Morgan Rhys


  1. Emyn rhif 534, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930