Adeilad gref—y graig yn sylfaen,
Arglwydd, dyro imi'n awr;
Llanw f'enaid i â'th gariad
Tra fwy'n teithio daear lawr.
Arthur Evans, Cynwil
597[1] Brawd mewn Cyfyngder
88. 87. D.
1 WYNEB siriol fy Anwylyd
Yw fy mywyd yn y byd,
Ffárwel bellach, bob eilunod,
Iesu 'Mhriod aeth â'm bryd ;
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrind mewn môr o ofid yw ;
Ni chais f'enaid archolledig
Neb yn feddyg ond fy Nuw.
2 Dyddiau blin fy mhererindod
Sydd ar ddarfod, yn ddi-lai ;
Ffárwel yfed dyfroedd Mara,
I ddinas arall 'r wy'n nesáu;
Teimlo f'enaid 'r wy'n ymadael
Â'r creaduriaid ar y llawr ;
Fy hiraeth beunydd sy am fynd adre'
I'r dedwydd dragwyddoldeb mawr.
Morgan Rhys
597[2] Ymhyfrydu yng Nghrist a'i Groes
88. 87. D.
Ni ddichon byd â'i holl deganau |