689[1] Cynnal wrth farw.
87. 87. D.
1 MAE 'nghyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd yn y blaen,
Rhai fu'n mynd trwy ddyffryn Bacca
Gyda mi tua Salem lân;
Yn y dyffryn tywyll garw,
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy;
Mae'r addewid lawn i minnau:
Pam yr ofna f'enaid mwy?
William Williams, Pantycelyn
690[2] Gorfoledd y Credadun yn Angau.
87. 87. D.
1 O! ANFEIDROL rym y cariad,
Anorchfygol ydyw'r gras;
Digyfnewid yw'r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f'angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw.
2 Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don:
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.
Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach
691 [3] Digonolrwydd Llawenydd yn y Nef.
87. 87. D.
|} |