'D oes ond calon lân all ganu-
Canu'r dydd a chanu'r nos.
2 Pe dymunwn olud bydol,
Chwim adenydd iddo sydd :
Golud calon lân rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd.
Calon lân, &c.
3 Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd cân-
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi imi galon lân.
Calon lân, &c.
Daniel James (Gwyrosydd)
766[1]Mae'n fy Ngharu
87.87.
1 HOFF yw'r Iesu o blant bychain,
Llawn o gariad ydyw Ef;
Mae yn gŵylio drostynt beunydd,
Ar ei orsedd yn y nef.
Mae'n fy ngharu; 'r wyf yn gwybod
Mai ei eiddo byth wyf fi;
Mae'n fy ngharu, diolch iddo,
Prynodd fi ar Galfari.
2 Os gofynnwch pam 'r wy'n hapus—
Iesu sy'n ein caru ni,
Ac yn galw'n dirion arnom,
"Dowch blant bychain ataf Fi."
3 Gwybod 'r wyf y gwrendy'r Iesu
Weddi plant o orsedd nef:
Deuwch, deuwch oll dan ganu,
Gyda'n gilydd ato Ef.
Cyf Daniel Thomas (Pabellwyson)
- ↑ Emyn rhif 766, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930