Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

22 LLYFR GLOYWI CYMRAEG. dim yn amwys nac yn aneglur yn y rheol hon. Y mae mor glir â'r goleuni nad oes dyblu ar un llythyren ond nac r. Y mae'r ddeddf hon yn condemnio ar unwaith ffurfiau anhyfryd fel accw, etto, atteb, cymmaint, cymmeryd (cymryd yw'r gair), cyssylltiad, cyssegr, &c. Doniol yw gweled Cymmraeg, Cymmro a Chymmru yn y Gomerydd, eithr nid mymryn mwy cywir yw dyblu'r m mewn geiriau eraill. Y mae m bob amser yn cynrychioli dwy m,-mm,-mewn Hen Gymraeg, a lle nad oedd ond un m yn y gwraidd, fe'i cynrychiolir erbyn hyn gan f neu w. Felly, nid oes galw am ddwy m. Y mae'r un peth yn wir am c, t, ac s. "Messiah " y Sais yw "Meseia" neu "Mesïa'r Cymro. Cofier y rheol,- Never double any consonant in Welsh except "n" and "r."

(2) Y cam nesaf. Nid yw hyd yn oed "n" ac "r" i'w dyblu bob amser. Nid ydynt byth i'w dyblu mewn sillafau diacen, eithr mewn sillafau acennog caeedig. Hynny yw, yn y sillaf olaf ond un pan fo'n gaead. Gwelir y gwahaniaeth rhwng y sillaf agored a sillaf gaeedig ar unwaith os meddylir am y gair "whine" yn y Saesneg. Ychwaneger sillaf a thry'n "whining." Eithr y mae'n wahanol ynglŷn â'r gair "win," a dry'n winning." Y mae'r cyntaf yn agored, tra y mae'r olaf yn gaead, ac yn galw am ddyblu'r n. Y mae'r un peth yn wir yn y Gymraeg. Od yw'r sillaf yn agored, ni ellir dyblu'r n a'r r, ond od yw'n gaead fe'u dyblir. Er enghraifft, fe sylwa'r glust arwaf fod gwahaniaeth rhwng canu (to sing) a cannu (to whiten). Y mae'r sain yn y cyntaf yn hwy nag yn yr ail, a'r sain fer sy'n gofyn am y dyblu. Ysgrifenner, felly, canu (to sing) ag un n, eithr rhaid wrth ddwy yn cannu (to whiten). Gwahaniaether yn yr un modd rhwng tanau" (fires) a tannau (chords), "tonau" (tunes)