Ystraeon y Lleill
1.—Y LLEILL
YR oedd tyrfa, fel y dywedais, ar fwrdd y llong. Hoffai pawb weld yr eneth fechan chwim yn gwibio hyd y dec ac yn y cabanau, ac yr oedd pawb a gair mwyn a gwen pan fyddai hi gerllaw. Gwelent mor ieuanc oedd, a chofient fod ei thad yn wael.
Wedi deall ei bod yn hoff o ystraeon, ceisiai pawb gofio rhyw ddychymyg neu hanes i'w adrodd iddi. Ac felly clywodd Nest lawer iawn o ystraeon nad ydynt yn y llyfr hwn.
Heb fanylu dim am yr aroddwyr ereill,—ond dweyd fod rhai yn garedig ddiathrylith a'r lleill yn adroddwyr o fedr, dyma ychydig o'r pethau glywodd
II.-Y MYNYDD A'R AFON
FFARWEL, fy nghyfeilles hawddgar," ebe'r Mynydd wrth yr Afon, "y mae'n well gennyt y Môr na mi. Yr wyf yn sefyll yma bob amser, a than oleu haul a lleuad yr wyf yn syllu ar dy dlysni, a gwrando ar dy gân. Ond mynd dy oreu yr wyt ti, ddydd a nos. Mae arnat hiraeth am y Môr."
"Rhaid i mi fynd," ebe'r Afon, "i roi dŵr i'r blodau. Oni weli hwy ar fy mynwes? Y mae'r