Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI.-CARIAD BRAWD A CHWAER

TRO diweddaf y gwelais Ilid a Gwenfron oedd ar falconi gwesty yn Llundain, ar noson haf oleu leuad, yn siarad yn hapus a'u gilydd. Ychydig fuasai'n dychmygu, wrth edrych arnynt, gymaint oedd dau mor ieuanc wedi ddioddef. Eto, gallai y craff ganfod fod Gwenfron yn welw, ac megis yn ddi-ysbryd oherwydd gwaeledd. Yr oeddwn i yn digwydd gwybod hanes y brawd a chwaer.

Yr oedd eu tad a'u mam unwaith mewn amgylchiadau cysurus, ond syrthiasant i dlodi. Penderfynodd y tad fynd i Awstralia i ennill arian, gan adael ei wraig a'i blant ar ol. Cyn mynd aeth at gyfaill, un oedd wedi dod yn gyfoethog trwy ei gymorth ef, a dywedodd wrtho,

—"Yr wyf yn mynd i Awstralia i geisio ail-ennill bywoliaeth. Yr wyf yn gadael digon i'm gwraig a'm dau blentyn fyw arnynt am bedair blynedd. Os na ddof yn ol yr adeg honno, a wnewch chwi ofalu na fyddant yn dioddef?"

"Yr wyf yn ddyledus i chwi am bob peth sydd gennyf," ebe'r cyfaill. "ni chaiff eich gwraig na'ch plant ddioddef eisieu tra bo gennyf grystyn i'w rannu a hwynt."

Aeth y tad i Victoria, a gweithiodd yn galed yno i godi busnes. Yr oedd y gwynt yn galed yn ei erbyn ; ond anfonai lythyrau cysurlawn adref at ei wraig a'i blant. Y mhen y pedair blynedd, pan hanner ddisgwyliai y fam ei fod yn dod adref, pallodd ei lythyrau. Ofnai y fam ei fod yn wael; ofnai hefyd na fedrai gael bwyd i'r plant, oherwydd