Ystraeon y Teithiwr
I.—Y TEITHIWR
YMYSG y dyrfa ar y llong yr oedd gŵr cymharol ieuanc, a'i ynni yn tynnu sylw pawb. Teithiwr oedd. Yr oedd rhyw awydd gweld lleoedd newyddion yn ei ddenu yn ei flaen o hyd. Weithiau dyheai am weld lleoedd unig, na fu troed dyn ynddynt erioed; lle gwenai mil o sêr ar aberoedd tawel, a lle'r oedd y lleuad fel pe'n ymdrechu a chymylau'r nos wrth geisio goleuo'r wlad. Dro arall, crwydrai drwy ddinasoedd mawrion, gorlawn o bobl, rhai o'r heolydd yn llawn dwndwr masnach, ereill yn llawn pechod a phla. Bu bron iddo golli ei fywyd lawer gwaith—yn eira'r Pegwn, yn sychdir gwlad y Somali, ar yr Alpau, ac yn anialwch Arabia. Beth, tybed, oedd yn ei alw o'i gartref tawel i'r helyntion hyn?
Gŵr hirgoes, teneu, eiddil, oedd; a thrwyn fel Rhufeiniwr nen eryr, a llygaid duon, gwibiog. Dywedais ei fod yn eiddil, ond golwg felly yn unig oedd arno. Yr oedd ei gyhyrau fel lledr, medrai redeg pum milltir heb golli ei wynt, yr oedd ei afael fel gafael llaw haearn.
Cafodd Nest aml ysgwrs ag ef. Ni wyddai'n iawn sut i ddweyd ystori wrth enethig: ond deallai Nest amryw ddywedai wrthi, a dychmygai lawer o ychwanegiadau atynt yn cysgu'r nos.