Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ystraeon y Genhades

I.—Y GENHADES

O BOB ystraeon glywodd, y rhai gofiai Nest oreu oedd ystraeon adroddid iddi, weithiau ar fwrdd y llong, weithiau yn y cabin, gan foneddiges ieuanc. Athrawes oedd, ac yr oedd yn mynd allan fel cenhades i Ynysoedd Môr y De. Yr oedd Nest yn teimlo fod llygaid dwys y genhades yn edrych drwyddi, ac i'w henaid; ond yr oeddynt yn dyner ac yn garedig iawn. Yr oedd ei llais yn felodaidd iawn hefyd; a theimlai Nest fod ei chwmni, nid yn unig yn ei gwneud yn hapusach, ond hefyd yn ei gwneud yn well.

Weithiau adroddai'r genhades hanes rhyw blentyn bach gartref. Weithiau galwai sylw at rywbeth welent,—a gwelsant nautilus un diwrnod. Dro arall, adroddai ryw ystori oedd wedi glywed. A thro arall gwnai ambell gân fechan ddigri i ddifyrru Nest. Yr oedd yn llawn o gymdymdeimlad â phlant ac â rhai'n dioddef. Ni Wyddai Nest o'r blaen fod cymaint o ddioddef yn y byd, a fod gan Iesu Grist gymaint o waith cyn 'ennill y byd yn lwyr iddo. Bob nos, hefyd, wrth ddweyd ei gweddi, gofynnai i Iesu Grist a gai hi ei helpu i ennill y byd iddo. Nid y genhades ofynnodd iddi wneud; daeth y peth i feddwl Nest ei hun.