Tudalen:Llyfr Owen.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIII

INDIAID GOGLEDD AMERICA

UNWAITH meddai holl ogledd America, — Canada, yr Unol Daleithiau, a Mecsico,- drigolion annhebyg i'r rhai sydd yno'n awr. Y mae'r Americaniaid presennol wedi disgyn o'r un bobl â ninnau, i raddau pell. Disgynyddion y Piwritaniaid a'r Crynwyr sydd yn nhaleithiau Lloegr Newydd, pobl a adawodd eu gwlad ar awgrym John Penri, i gael rhyddid crefyddol yn ardaloedd dieithr America. Disgynyddion y Cymry sydd mewn llawer o ardaloedd Pennsylfania, llawer ohonynt yn Grynwyr o dueddau Dolgellau a'r Bala. Plant dilynwyr John Wesle sydd yn Georgia a Charolina. Ac y mae miloedd o ddisgynyddion y caethion a werthwyd o Affrica yn y taleithiau deheuol, negroaid duon gwallt crych. Ond y mae ymysg y dyfodiaid hyn rai o ddisgynyddion yr hen breswylwyr eto'n aros, yr Indiaid oedd yno cyn i'r Prydeinwyr na'r Ffrancwyr na'r Sbaenwyr roddi eu troed i lawr ar dir y Byd Newydd.

2. Yr enw a roddwyd arnynt oedd Indiaid. Nid oes a fynnont ddim â'r India. Ond pan ddarganfu Columbus yr America, chwilio am ffordd i'r India yr oedd; ffordd newydd, oherwydd yr oedd y Twrc anwar wedi cau yr hen ffordd. A phan welodd ef dir yr America, tybiodd iddo gyrraedd yr