Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geiriau; tywalltai ffrydlif o hyawdledd nad yn fynych y clywid ei gyffelyb. Felly hefyd y mae yn ysgrifenu. Nid oes odid i un o'n hawdwyr "clasurol" Cymreig y gellir ei gystadlu âg ef. Teimlwn fod y fath feddyliau yn teilyngu eu gwisgo yn y wisg oreu" a fedd iaith i'w rhoddi; a bod y fath wisg yn teilyngu y meddyliau uchaf y gall y meddwl dynol eu cynyrchu i'w llanw; yma cawn y naill a'r llall; y meddyliau "fel afalau aur yn ngwaith arian cerfiedig" yr iaith a'r briodddull Gymreig bur a choeth. Ysgrifenodd, ac, feallai y pregethodd, Erbury, Cradoc, a Powell, fwy nag ef; ond ni bu eu dylanwad ar Gymru yn gymaint; ni chawsant afael ar y cyffredin bobl fel a gafodd ef, am iddo ddefnyddio iaith y bobl, tra mai y Saesoneg, yn benaf, a ddefnyddient hwy. Fel y bu ei lafur gynt yn help i barhad yr hen iaith, yn enwedig fel iaith crefydd; hyderwn y bydd i ddarlleniad y llyfr hwn fod yn foddion i barhau ei ddylanwad yn yr un cyfeiriad. Teimlwn erbyn ei ddarllen drwyddo ein bod yn gliriach ein deall, yn dynerach ein teimlad ac yn burach ein calon, ie, yn fwy gwladgarol a Chymroaidd hefyd pan yn diweddu na phan yn dechreu.

Ymneillduwr efengylaidd ydoedd Morgan Llwyd. Ond pan y ceisir cael allan perthyn i ba blaid ohonynt yr oedd, nid yw mor eglur. Y pryd hwnw yr oedd rhai a amrywient yn eu barn ar bynciau llai pwysig yn lletya dan yr un gronglwyd ac yn aelodau yn yr un Eglwys; cytunent i annghyturo ar y pethau bychain, gan eu sêl dros y pethau hanfodol. Ceisiodd Joshua Thomas wneud Bedyddiwr ohono, ond methodd a chyrhaedd sicrwydd; ond clywodd "iddo fyned i rywle pell i'w fedyddio, ac na ddarfu iddo ddim hysbysu hyny yn Ngwrecsam."[1] Dywed eraill ei fod yn mron a bod yn un

  1. Hanes y Bedyddwyr, 146, 147.