Prawfddarllenwyd y dudalen hon
[NODIAD.-Dilynwyd geiryddiaeth ac orgraff yr argraffiad cyntaf, yr unig un a gyhoeddwyd yn ystod bywyd yr awdwr, mor fanwl ag y gellid yn yr argraffiad hwn. Rhydd hyn gyfrif am ddyeithrwch y sillebiaeth mewn manau; ond hyderwn y ca y darllenydd fwy na'i ad-dalu yn yr ymgydnabyddiaeth â phriod-ddull brydferth MORGAN LLWYD ei hun, cyn i feddygon musgrell yr argraffiadau diweddaf o'r llyfr ei anafu a'i anurddo mor resynus].